Cysylltwch a'r Tîm

Tîm proffesiynnol gyda chefndir yn musnes yw HWB Cymru.  Gennym gysylltiadau ar bob lefel o lywodraeth a busnes ac rydyn yn gweithio'n agos gyda nhw, a phartneriaid arbennigol, i sicrhau gwasanaeth o'r safon uchaf. Gyda chefndir ym myd Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol, Pleidiau Gwleidyddol, y Gwasanaeth Sifil a gyda busnes preifat, yn cynnwys Mudiadau busnes, rydyn yn hyderus fod HWB yn gallu cynnig gwasanaeth busnes yn addas i'ch anghenion.

 

Cysylltwch gyda:
Ffon: 02920 884 682
Ebost: gwybodaeth@hwbcymru.com | Skype: hwb.cymru

Nia Davies, HWB Cymru - HWB i Fusnes | Helping With Busines

Gan Nia gefndir ym musnes a gwleidyddiaeth yng Nghymru. Wedi graddio o Brifysgol Aberystwyth, gyda Gradd yng Ngwleidyddiaeth a Gradd Feistr yn Entrepreneuriaeth, mae hi wedi gweithio ar gyfer Cynghorau Ceredigion a Chonwy fel Cynghorydd Busnes. Mae Nia hefyd wedi gweithio i'r WDA, ar gyfer nifer o fusnesau preifat ac ar gyfer Ffederasiwn y Busnesau Bach, cyn bod yn un o sylfaenwyr HWB Cymru. Roedd Nia wedi sefydlu a Chadeirio'r Bwrdd Caffael Cyflenwyr, ac wedi eistedd ar bob brif bwyllgor datblygu economaidd Llywodraeth Cymru. Mae ganddi felly dealltwriaeth ddwfn o gyd o'r hapddalwyr mae HWB yn bwriadu cefnogi i weithio'n agosach gyda'i gilydd.

Proffil LinkedIn Nia DaviesNia Davies 
nia.davies@hwbcymru.com | 07884440445

 

Non Rhys, HWB Cymru - HWB i Fusnes | Helping With Busines

Gan Non gefndir o reoli ymgyrchoedd ar bob lefel o Lywodraeth yng Nghymru, yn cynnwys strategaeth cyfathrebu, hyfforddi ymgeiswyr a threfnu gwirfoddolwyr. Mae hi hefyd gyda chefndir yn fudiadau aelodaeth a ganddi brofiad eang o weithio gyda gwirfoddolwyr ac actifyddion ac ymgynghori gydag aelodau. Mi roedd Non yn Gadeirydd Busnes Cymru yn ystod yr Uwchgynadleddau Economaidd, ac felly'r prif lais yn cynrychioli'r gymuned fusnes yn ystod y trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru yn ystod y dirwasgiad. Mae Non wedi eistedd ar a chadeirio nifer eang o Bwyllgorau Llywodraethol yng Nghymru, gan gynnwys Cyngor Adfywio'r Economi, Comisiwn Newid Hinsawdd Cymru a'r Bwrdd Cyfarwyddwyr yr Uned Partneriaid Cymdeithasol Cymru.

Proffil LinkedIn Non RhysNon Rhys 
non.rhys@hwbcymru.com | 07811841612

 

Peter Sishton, HWB Cymru - HWB i Fusnes | Helping With Busines

Gan Peter phrofiad arbenigol ym mholisïau Addysg Uwch, Addysg Bellach ag ysgolion, mae wedi ymrwymo cyflogwyr i mewn i’r agenda ar sgiliau yn effeithiol, yn arbennig ym maes technoleg. Roedd Peter yn Gyfarwyddwr e-skills UK yng Nghymru, y cyngor sgiliau sector ar gyfer busnes a thechnoleg, lle ddaeth a bwrdd cyflogwyr TG Cymru at ei gilydd, a wnaeth ennill parch adrannau’r Llywodraeth yng Nghymru a’r Gweinidogion. Wnaeth Peter helpu i greu’r ‘ gymuned rhanddeiliaid digidol’ yng Nghymru, yn cynnwys cyflogwyr (megis y sector gyhoeddus a phreifat a busnesau o bob maint), addysg a pholisi i sicrhau twf yn y sector TG yng Nghymru. Mae Peter yn unigolyn sydd â pharch mawr tuag ato am ennill a gweithredu rhaglenni wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan.

Proffil LinkedIn Peter SishtonPeter Sishton
peter.sishton@hwbcymru.com | 07790185857